SIARTER IAITH
Oriel
Dyma ni, grŵp gweithgar Y Siarter Iaith
Rydyn ni’n griw brwdfrydig iawn yn llawn syniadau gwych ar gyfer y flwyddyn hon.
Rydyn ni yn gweithio ar ennill y wobl Arian eleni ac wedi dechrau ar ein gwaith yn barod.
Yn ddiweddar fe fuon ni yn gweithio’n galed i drefnu ‘Te Prynhawn Shwmae, Su’mae’ er mwyn i’r cyhoedd ymuno gyda ni i sgwrsio yn Gymraeg dros baned o de. Roedd y prynhawn yn lwyddiant mawr ac roedd llawer wedi holi os fyddai hyn yn cario ymlaen yn yu dyfodol. Rhywbeth i’w drafod yn ein cyfarfodydd!
Here we are The Siarter Iaith crew
We are an enthusiastic crew with lots of interesting ideas for the coming year.
We are working towards winning the Silver Award this year and we are already planning and collating our ideas.
Recently we have been working hard to arrange an Afternoon Tea for the community in order to enjoy a chat and a cuppa with the children. The afternoon was a huge success and we had a few ask if it would be a frequent occasion. Something to discuss in our meetings!
​
Mae’r Siarter Iaith yn gynllun newydd a chyffrous sydd yn gorfod cael ei fabwysiadau gan ysgolion ym Mowys! Mae’r Llywodraeth am gael 1 miliwn o bobl i siarad Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050! Gyda chymorth yr ysgolion…mae hyn yn bosib. Mae siarad Cymraeg yn golygyu mwy na siarad Cyrmaeg yn y dosbarth, mae’n golygu siarad Cymraeg yn y coridorau, ar yr iard a thu hwnt i furiau’r ysgol – mae’n golygu gwneud ymgais i siarad Cymraeg ar bob cyfle posib! Mae hefyd yn golygu dysgu am ein hanes a’n diwylliant er mwyn i ni fod yn ymwybodol o’r holl bobl sydd wedi brwydro dros ein gwlad a’n hiaith ar hyd yr oesoedd – brwydro er mwyn cadw’r iaith yn fyw er lles ein cehedlaeth ni a chenhedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi enwebu pwyllgor er mwyn gallu llwyddo yng ngofynion y Siarter ac er mwyn rhoi cynlluniau ar droed. Mae’r brwdfrydedd yn sicr yn berwi oddi mewn i waliau’r ysgol, mae’r syniadau yn llifo ac mae hyn yn arwydd cryf a phendant fod llwyddiant ar y gorwel. Wrth lwyddo byddwn yn derbyn cydnabyddiaeth, arian a gwobrau i’r ysgol yn ogystal â gwobrwyon i’r plant gan yr athrawon! Mae nhw’n awyddus i gael cyfarfod ag enwogion Cymru, gwersylla dros nos ar dir yr ysgol a chynnal brwydr ddŵr rhwng yr athrawon a’r plant – bydd hyn yn ddiddorol! Os am wybod mwy am y cynllun mae croeso i chi gysylltu a’r ysgol. Yn sicr, dyma gyfnod cyffrous yn hanes Ysgol Dyffryn Trannon.
“Gyda’n gilydd…gwireddwn y freuddwyd”
The Siarter Iaith is a new and exciting scheme that is being adopted by schools in Powys! The Government aims to have 1 million people speaking Welsh by the year 2050! With the help of the schools ... this is possible. Speaking Welsh is not just speaking welsh in the class, it means speaking Welsh in the corridors, on the yard and beyond the walls of the school - it means making an attempt to speak Welsh at every possible opportunity! It also means learning about our history and culture so that we can be aware of all the people who have fought for our country and our language throughout the ages – the people who have fought to keep the language alive for the benefit our generation and future generations. We have nominated a committee so that we can succeed in the Siarter’s requirements and so that we can start moving forwards with the hopes of the school. The enthusiasm is overwhelming within the school, the ideas are flowing and we can see success on the horizon. When we succeed, we will receive recognition, money and rewards for the school as well as rewards for the children by the teachers! The children are eager to meet Welsh celebrities, camping overnight on school grounds and have a water fight between the teachers and the children - this will be interesting! If you want to learn more or if you have any questions, please feel free to contact the school. This is certainly an exciting time in the history of Ysgol Dyffryn Trannon
"Together ... we will realize the dream"
Rap y Siarter
Gwireddwn yr hen freuddwyd,
Cydweithiwn ôll fel un,
Dymuniad ein cyndadau,
Daw’n fyw a ni’n gytûn.
Tân fydd yn ein bwriad!
Tân wrth wneud y gwaith!
Tân fydd ymhob calon!
Wrth fynd a’r iaith ar daith!