top of page

DYSGU O BELL / DISTANCE LEARNING

Ebrill 2020

Annwyl Rieni,  

Bydd ‘Dysgu o Bell’ yn cychwyn o’r wythnos nesaf Ebrill 20fed. Bydd pob athro yn uwchlwytho tasgau / gweithgareddau ar gyfer eu dosbarth gan ddefnyddio ‘Teams’ ar Hwb. Byddwn yn dechrau trwy uwchlwytho gweithgareddau bob dydd neu bob dau ddiwrnod i weld sut mae hyn yn gweithio, efallai y byddwn yn newid hyn yn nes ymlaen. Nid oes amserlen ar gyfer y gweithgareddau gan ein bod yn dymuno rhoi hyblygrwydd i deuluoedd gyflawni'r tasgau o fewn amserlen sy'n gweithio i chi.

Gall disgyblion wneud y gwaith ar bapur neu ddefnyddio TG a gallant arbed eu gwaith yn eu ffeiliau J2E ar Hwb neu eu rhannu ar ‘Teams’. Bydd athrawon yn rhoi adborth ond efallai na fydd hyn ar gyfer pob tasg / gweithgaredd. Gall disgyblion / rhieni anfon neges at yr athro dosbarth ar ‘Teams / Seesaw’ os oes unrhyw gwestiynau am y gwaith.

Ein prif flaenoriaeth yw lles ein disgyblion a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn, felly os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau, problemau neu sefyllfaoedd cartref / teulu yn newid, cysylltwch â'r athro dosbarth. Nid yw dysgu o bell am fod yn union fel dysgu yn yr ysgol / ystafell ddosbarth, felly peidiwch â rhoi unrhyw bwysau arnoch chi'ch hun!

​

Byddem yn annog pob disgybl i fod mor actif â phosibl yn feddyliol ac yn gorfforol bob dydd ond deall y gallai fod yn anodd mewn realiti. Bydd staff yn cysylltu â'r holl ddisgyblion trwy alwad ffôn / Seesaw ac mae hyn er mwyn sicrhau bod pawb mor hapus ag y gallant fod ar yr adeg ansefydlog yma.

Plîs gysylltwch â staff os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a chadwch yn ddiogel.

Diolch yn fawr.

Mrs S Richards & Mrs E Chennetier

April 2020

Dear Parents,

‘Distance Learning’ will start from next week April 20th. Every teacher will upload tasks / activities for their class using ‘Teams’ on Hwb. We will start by uploading activities daily or every two days to see how this works, we may change this at a later date. There is no timetable for the activities as we wish to give families the flexibility to complete the tasks in a timeframe that works for you.

Pupils can do the work on paper or using IT and can save their work into their J2E files on Hwb or share on Teams. Teachers will give feedback but this may not be for every task / activity. Pupils / Parents can send a message to the class teacher on Teams / Seesaw for any questions they may have about the work.

Our main priority is the wellbeing of our pupils and their families during this difficult period, therefore if you are having any difficulties, problems or home /family situations change please contact the class teacher. Distance learning is not a like for like for school / classroom learning, so please do not put any pressure on yourselves!

​

We would encourage all pupils to be as active as possible mentally and physically on a daily basis but understand that it may be difficult in reality. Staff will be checking in with all pupils via telephone call / Seesaw and this is to ensure that everyone is as happy as they can be at this unsettling time.

Please do not hesitate to contact staff if you have any questions or queries and keep safe.

Thank you.

Mrs S Richards & Mrs E Chennetier

bottom of page